Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (56)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Mae’r Llywydd
wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru (30 munud) |
4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Strategaeth Pysgodfeydd Cymru (30 munud) Dogfen Ategol: (Saesneg yn unig)
|
5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol (15 munud) NDM4913 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gwasanaethau Ariannol fel y’i cyflwynwyd i Dŷ’r Cyffredin ar 26 Ionawr 2012 mewn perthynas â’r Corff Addysg Ariannol Defnyddwyr (CAAD), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Chwefror 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
|
6. Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012 (15 munud) NDM4949 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mawrth 2012. Dogfennau
Ategol |
7. Dadl: Cynllun Drafft ar Hawliau Plant i’w gymeradwyo o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (60 munud) NDM4950 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011: Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 20 Mawrth 2012. Dogfen Ategol Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r cynllun yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn adrodd i’r Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar gydymffurfio â’i dyletswydd i roi sylw dyledus i’r CCUHP. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r cynllun yn cynnig cyfleoedd cryfach ar gyfer herio’n briodol os ystyrir nad yw Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i roi sylw dyledus i’r CCUHP. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r Cynllun yn darparu ar gyfer mecanwaith adrodd cadarnach sy’n mynnu bod Gweinidogion Cymru’n adrodd yn amlach i’r Cynulliad. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 28 Mawrth 2012